Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 26 Medi 2016
Amser: 14.00 -
16.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3722
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Richard Spear, Gyrfa Cymru Nikki Lawrence, Gyrfa Cymru Dr David Blaney, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Bethan Owen, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Nick Williams, HEFCW Meilyr Rowlands, Estyn Phil Sweeney, Estyn |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol cymru Anthony Barrett |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Helen Jones Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 2MB) Gweld fel HTML (344KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor.
2.1 Nodwyd y cofnodion.
3.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Richard Spear, Prif Weithredwr a
Nikki Lawrence, Cyfarwyddwr Adnoddau Gyrfa Cymru am Adroddiad Blynyddol Gyrfa Cymru 2015-16.
3.2 Cytunodd Richard Spear i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y canlynol:
· Mae'r cyfrifon yn egluro bod staff Gyrfa Cymru yn aelodau o saith o Gynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol yn dilyn uno hanesyddol y cwmnïau gyrfaoedd rhanbarthol. Mae'r saith ardal hyn wedi'u rhestru yn y cyfrifon, ond mae'r Pwyllgor yn awyddus i gael eglurhad ynghylch pam nad yw hen Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg wedi'i gynnwys yn y rhestr.
· Nifer y cysylltiadau a wnaed drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd nifer y cysylltiadau a wnaed drwy ieithoedd nad ydynt yn Gymraeg na Saesneg.
4.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Dr David Blaney, Prif Weithredwr,
Bethan Owen, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol a Nick Williams, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, CCAUC am Adroddiad Blynyddol CCAUC 2015-16.
5.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd, a Phil Sweeney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Estyn am Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Bu'r Aelodau yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law wrth graffu ar Gyrfa Cymru ac adroddiadau blynyddol Estyn a CCAUC ar gyfer 2015-16